Beth sydd gennym yn Trwyr Ffenestri ydy casgliad diddorol o straeon byrion, pob un ohonyn nhw'n cynnig rhywbeth gwahanol ir darllenydd.
Yr uchafbwynt ynddynt ydy 'Agor Drysau', sef stori fer sydd yn dweud hanes menyw ddall ac mae hi wedi cael y cyfle i gael llawdriniaeth er mwyn gweld y byd mae hi wedi bod yn ei golli erioed. Maer stori hon yn sefyll allan oddi wrth y gweddill ac fe'm cefais fy hun yn gobeithio y byddai Frank Brennan yn ysgrifennu fersiwn hirach or stori hon.
Mae gweddill y straeon yn mynd heibio yn eithaf cyflym ac yn glod ir gwaith addasu gan Manon Steffan Ros, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog trwy wneud i chi deimlo fod y straeon yn digwydd mewn amgylchedd Cymraeg a Chymreig. Maer ddeialog yn gredadwy ac yn teimlo'n realistig.
Maer tîm ysgrifennu yn gweithio yn dda gydai gilydd, ac mae Manon, sydd yn awdur gwych ei hunan, yn gwneud gwaith hawdd o addasu geiriau Brennan a dod â'r cyfan yn fyw, a hynny efo chwistrelliad bach o'i phersonoliaeth ei hun.
Yn fy marn i, daw uchafbwynt arall yn y stori olaf, 'Cyffyrddiad Ysgafn', sef stori rybuddiol am y peryglon o ddilyn y dorf pan ddylech chi wybod yn well. Dyma stori arall roeddech yn gobeithio y byddai Brennan yn ei thrawsnewid yn stori hir.
Rydw in edrych ar gasgliadau straeon byr fel record hir, neu albwm gerddorol. Beth fyddech yn ei gael hefo Trwyr Ffenestri ydy casgliad o straeon diddorol, fel traciau neu ganeuon unigol, a hefyd byddech yn cael uchafbwyntiau fel 'Agor Drysau', 'Cyffyrddiad Ysgafn', ar stori gyntaf, 'Fel Hen Win', un sydd yn edrych ar y cysylltiadau sydd ynghlwm wrth gytundeb busnes.
Maer llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen ar lefel uwch yn gyfforddus, ac efallair rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau darllen. Doeddwn i ddim yn gweld y llyfr yn anodd iw ddarllen o gwbl, ac ar gyfer y geiriau newydd roedd yr eirfa ar bob tudalen yn ddefnyddiol iawn. Os dych chi eisiau llyfr y gallwch droi ato am hanner awr yn ddidrafferth dymar llyfr i chi.
Byddwn in argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau rhywbeth ychydig bach yn wahanol i bopeth arall sydd ar gael. -- Nicky Roberts @ www.gwales.com