Muutke küpsiste eelistusi

Cyfres Trio: Antur y Mileniwm [Pehme köide]

  • Formaat: Paperback / softback, 88 pages, kõrgus x laius x paksus: 210x148x7 mm
  • Ilmumisaeg: 09-Jan-2024
  • Kirjastus: Atebol Cyfyngedig
  • ISBN-10: 1912261413
  • ISBN-13: 9781912261413
Teised raamatud teemal:
  • Formaat: Paperback / softback, 88 pages, kõrgus x laius x paksus: 210x148x7 mm
  • Ilmumisaeg: 09-Jan-2024
  • Kirjastus: Atebol Cyfyngedig
  • ISBN-10: 1912261413
  • ISBN-13: 9781912261413
Teised raamatud teemal:
The first novel in a trilogy by Manon Steffan Ros for teenagers with three lively characters at the centre of the story. Reprint. First Published in 2018. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Arvustused

Antur y Mileniwm ywr stori gyntaf mewn cyfres o lyfrau ar gyfer darllenwyr ifanc oddeutu 8 i 12 oed. Maen chwip o stori gan Manon Steffan Ros syn llawn hwyl am y cymeriadau hoffus Clem Clyfar, Dilys Dyfeisgar a Derec Dynamo. Arwyr oedd y plant hyn, rhai a oedd yn hoffi antur ac yn galw eu hunain yn TRIO! Yn anffodus roeddent yn anhygoel, yn ANHYGOEL O WAEL, ac yn methun aml ac yn mynd i helynt, syn gwneud y llyfr yn wahanol ac yn unigryw.

Un diwrnod, aeth y triawd i Gaerdydd i wylio sioe am anifeiliaid y jyngl gyda mam Derec. Er mawr syndod i bawb roedd rhywun wedi newid y geiriau econig ac enwog sydd i'w gweld ar Ganolfan y Mileniwm! Cawn ymuno gydar Trio wrth iddynt geisio datrys y dirgelwch yn eu ffordd ddoniol eu hunain.

Yn nodweddiadol o Manon Steffan Ros maer eirfan goeth ar ysgrifennu yn glyfar, megis yr enw Trio: am fod tri ohonyn nhw ... au bod yn trio bob tro.

Maer lluniau yn ategur stori i ddarllenwyr ifanc au gwisgoedd gwych yn dangos dychymyg byw yr awdures. Gwelwn Dilys Ddyfeisgar yn gwisgo sbectol moron trwyr sioe oherwydd bod moron yn dda in llygaid! Dim rhyfedd ei bod yn gweld pob dim yn oren!

Ewch allan ich siop lyfrau leol i brynur llyfr yma maen werth pob ceiniog, a chofiwch roi cynnig ar y llyfr arall yn yr un gyfres, Antur y Castell! -- Non Dafydd @ www.gwales.com