Dwi ddim yn cofio Mam a Dad byth yn eistedd i lawr efo fi a fy chwaer i gael y sgwrs am ffeithiau bywyd a sut gawson ni ein creu. Ar un llaw, ella fasa hynny wedi bod yn eithaf defnyddiol, ond wedi meddwl yn iawn, dwin meddwl fasa fo wedi bod yn rhy lletchwith. Yn y dyddia hynny (a dwi ddim ond yn sôn am y 90au) doeddach chi jest DDIM yn trafod rhyw yn gyhoeddus, ac yn bendant ddim efoch rhieni.
Dwi ddim yn cofion iawn sut wnes i ddod i ddeall sut mae pethau yn gweithio ond dwin bendant am un peth doedd o ddim o ganlyniad ir gwersi sex ed yn yr ysgol achos roedd rheinyn anobeithiol! Mae gen i ryw gof o ffeindio gwyddioniadur reit fanwl ar y silff adra a chael agoriad llygad go iawn!
Wrth gwrs mae isio dysgu am y bioleg tu ôl ir cyfan, ond mae llawer mwy iddi na hynny. Yn wahanol ir llyfrau llychlyd, hen ffasiwn oedd gennym ni, maer llyfr deniadol, modern yma yn sôn am nifer o bynciau cyfoes fel iechyd meddwl, rhywedd, cyfryngau cymdeithasol, teuluoedd cyfunol, gorbryder, catfishing a phethau felly llawer mwy na jest dysgu am sut mae sberm ac wy yn dod at ei gilydd (ond, ie, mi fyddwch chin falch o glywed fod yna ddiagramau or mân bethau hynny yn rhywle yn y llyfr!).
Gweld y llyfr yma wnes i yn Saesneg gyntaf, a chlywed wedyn fod Rily wedi gwneud addasiad o lyfr poblogaidd Dr Ranj Dysgu am Dyfu: Llawlyfr i Fechgyn. Maen bwysig nodi nad llyfr am ryw yn unig yw hwn. Maen cynnwys gwybodaeth am lwyth o bethau defnyddiol a difyr sydd yn ymwneud â thyfu i fyny, ar holl newidiadau gwyllt a gwallgo syn digwydd yn ystod y glasoed. Stwff fel hylendid personol, perthnasau, chwaraeon, cadwn iach, iechyd meddwl, seibrfwlio, ffrindiau, hormonau, emosiynau a mwy ... maer rhestr yn parhau!
Yn siarad o brofiad, mae bechgyn yn aml iawn yn cael enw drwg am fod yn blentynnaidd neun anaeddfed ynghylch materion yn ymwneud â rhyw, ond dwin meddwl fod hynnyn annheg braidd. Mae bechgyn eisiau dysgu am y pethau ma i gyd, ond mae angen iddyn nhw gael eu cyflwyno mewn ffordd syn mynd i apelio. Dynan union maer llyfr yman ei wneud.

Addasiad o adolygiad oddi ar wefan Son am Lyfra / An adaptation of a review from the Son am Lyfra website. -- Cyngor Llyfrau Cymru