Maer gyfrol hon yn cynnig golwg newydd ar ddelweddau cyfarwydd y ffotograffydd John Thomas (18381905), wrth eu gosod yng nghyd-destun llenyddol a syniadol Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dymar astudiaeth fanylaf o waith John Thomas hyd yma, syn torri cwys newydd wrth ddadansoddir delweddau ochr yn ochr â llenyddiaeth Gymraeg ei gyfoedion. Maer gyfrol hefyd yn trafod perthynas Thomas ag O. M. Edwards, ac yn ystyried goblygiadau amwys y berthynas ir modd y darllenir gwaith y ffotograffydd hyd heddiw; ac, mewn cyd-destun ehangach, cymherir gwaith Thomas â phrosiect y ffotograffydd Almaenig August Sander (18761964) ir ugeinfed ganrif, gan gynnig dadansoddiad o weledigaeth greadigol ac arloesol y Cymro.