Rydym yn meddwl ein bod yn gyfarwydd â chwedlau epig ein gwlad au cymeriadau hudolus, ond mae dwy ochr i bob stori. Maer gyfrol hon yn ein herio i feddwl ddwywaith am y straeon yr ydym i gyd mor gyfarwydd â nhw.
Yn rhy aml o lawer mae llais a phrofiad y ferch yn ein chwedlau an straeon yn cael ei anwybyddu, a gan bod natur ein straeon cynhenid yn dibynnu ar eu hadrodd ar lafar, maen debygol iawn mai dynion fyddai wedi gwneud hynny, ac o ganlyniad dim ond un fersiwn or stori rydym wedi ei glywed. Yn y gyfrol hon y merched syn hawlior llwyfan. Nid ydynt yn cael eu dyrchafu i uchelfannau afrealistig, fel mae rhai or dynion yn y Mabinogion noder nad Culhwch gyflawnodd holl dasgau Ysbaddaden Bencawr i ennill serch Olwen, a ni all holl ddoniau Gwydion wneud i Flodeuwedd garu Lleu Llaw Gyffes, druan. Na, maer merched hyn yn berffaith ac amherffaith, yn gryf ac yn fregus, yn ansicr ac yn ddewr. Merched y gallwn uniaethu â nhw.
Mae yma amrywiaeth o straeon, ar awduron wedi llwyddo i gysylltur gorffennol ar presennol yn gelfydd drwy roi blas heddiw ar brofiadaur cymeriadau. Drwy gymeriad Melangell rydym yn wynebur argyfwng amgylcheddol enbyd ar bobl ifanc syn ceisio achub y sefyllfa cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Wrth fynd o dan groen Arianrhod down i ddeall yn well pam adawodd hi Lleu, ei mab, yng ngofal ei brawd Gwydion. Mae Nyfain yn santes i ddioddef alcoholiaeth a thymer ei gr, ond pa mor bell yr aiff i warchod ei hefeilliaid bach ac enw da ei gr creulon. Pan rydym ni, fel Dwynwen, yn syrthio mewn cariad â Mael mae ein stumogaun disgyn pan sylweddolwn yr hyn sydd o fewn ei allu. Yn union fel yr hen chwedlau, mae merched y straeon hyn yn mynd drwyr felin hefyd.
Yn y saith stori maer saith awdur wedi tyrchun ddwfn i brofiadau bywyd y merched arallfydol yma au trawsnewid i fod yn gymeriadau credadwy o gig a gwaed.
Erbyn cyrraedd y tudalennau olaf bydd y fersiwn newydd or merched chwedlonol hyn yn sir o aros efo chi am amser hir. -- Mared Llywelyn @ www.gwales.com