Muutke küpsiste eelistusi

Trawsffurfior Seintiau: Llawysgrif Yale o Fucheddaur Saint [Pehme köide]

  • Formaat: Paperback / softback, 312 pages, kõrgus x laius x paksus: 216x138x16 mm, Not illustrated
  • Ilmumisaeg: 15-May-2024
  • Kirjastus: Gwasg Prifysgol Cymru
  • ISBN-10: 1837721203
  • ISBN-13: 9781837721207
  • Formaat: Paperback / softback, 312 pages, kõrgus x laius x paksus: 216x138x16 mm, Not illustrated
  • Ilmumisaeg: 15-May-2024
  • Kirjastus: Gwasg Prifysgol Cymru
  • ISBN-10: 1837721203
  • ISBN-13: 9781837721207
Yn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar ir amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 llawysgrif modern cynnar syn drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar âr ddegfed neur unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi ai gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y maer gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar ar cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad iw fywyd, ei weithgarwch ai ddiddordebau eang.
Byrfoddau
Rhagair
1 Llawysgrif Gatholig ai Hysgrifydd
2 Buchedd yr Esgob Cybi
3 Trawsffurfio Hagiograffeg Gymraeg: Buchedd Beuno a Buchedd Collen
4 Cynnyrch Merthyr Catholig: Cyfieithiad Edward Morgan or Vita Wenefredae
5 Ar y Diwedd
Llyfryddiaeth
Mynegai